Sefydlwyd Ysgol Rydal i fechgyn yn 1885 gan yr addysgwr Methodistaidd blaenllaw, T. G. Osborn. Yn 1995 unodd yr ysgol gyda Choleg Penrhos, ysgol breifat gyfagos i ferched. Mae’r ysgol wedi bod yn rhan bwysig a hir sefydlog o’r dref, ac mae nifer o hen filas crand yr ardal bellach yn dai llety ar gyfer y myfyrwyr. Ychwanegwyd Adeilad Costain at yr ysgol yn 1927-30, a’r Neuadd Goffa yn 1955-57.
Mae’r ddau adeilad yn rhestredig Gradd II, ac wedi eu cynllunio gan Sidney Colwyn Foulkes, pensaer lleol adnabyddus.

Visit the Rydol Penrhos website for a fuller history of the school
