Eglwys y Methodistiaid Saesneg, Hen Golwyn

Bu’r Methodistiaid Saesneg yn addoli i ddechrau ym Methesda, yr Eglwys Wesleaidd Gymraeg. Byddent yn cyfarfod ar fore Sul ar ôl y gwasanaeth boreol, gyda’r nos uwchben siop deganau Alex Orme, ac yn ystod yr wythnos yng nghapel Shiloh ar Ffordd Greenfield. Fe aethon nhw i ‘gapel sinc’ y Bedyddwyr yn 1905 nes yr agorwyd y capel presennol yn 1909. Roedd lle i 250 o addolwyr yn y capel newydd ond fe’i ehangwyd yn 1933 er mwyn gwneud lle i Ysgol Sul fawr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe ddefnyddiwyd yr ysgoldy fel llety i faciwîs o Lerpwl.

Dyluniwyd yr adeilad yn null mudiad Celfyddyd a Chrefft gan gwmni Porter ac Elcock, Bae Colwyn. Fe’i adeiladwyd gan gwmni J. Tucker a’i Feibion, ar gost o £1,500 ar ben cost y tir oedd yn £367 a 10s. Mae’r eglwys yn anarferol o isel gyda waliau o flociau calchfaen a tho llechi Westmoreland wedi eu gosod â rhai mawr yn y gwaelod yn codi at rai llai a theils crib coch plaen. Gosodwyd tywodfaen o gwmpas y ffenestri a’r drws, a thywodfaen hefyd a ddewiswyd ar gyfer y cerrig copa a’r cerrig cynnal.

Prif nodwedd llinell y to ydi’r crymdo sgŵar mawr a’i lwfrau awyru a cheiliog gwynt. Un nodwedd arbennig o’r to hwn ydi iddo gael ei adeiladu heb hoelion. Sylwch ar y ffenestr gron ar y talcen sy’n wynebu Rhodfa Wynn a fel y mae wedi ei rhannu’n bum ffenestr gron lai. Mae hefyd tair ffenstr gul a diddorol yn y talcen, dwy ohonyn nhw’n agos iawn i’r llawr. Sylwch hefyd ar y cerrig a osodwyd mewn llinell batrwm cefn pennog yn y talcen ar ddwy ochr y ffenestr gron.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group