Yr Is-orsaf Drydan, Ivy Street

Pan roedd Bae Colwyn yn ddim ond pentref a gorsaf reilffordd roedd materion yr ardal o dan reolaeth Conwy fel rhan o Ddosbarth Gwledig Conwy. Erbyn 1887 roedd Bae Colwyn wedi datblygu digon i gyfiawnhau rhoi iddi ei llywodraeth leol ei hun. Bu ganddi Fwrdd Lleol o 1887-95 ac yn ystod y cyfnod yma bu gwaith adeiladu sylweddol. Yn dilyn diddymiad y Bwrdd daeth Bae Colwyn a Cholwyn yn Ddosbarth Trefol. Roedd cyfarfodydd y Bwrdd Lleol mewn adeilad lle mae’r is-orsaf drydan heddiw. Roedd yr adeilad hefyd yn gartref i’r 1 Heddlu leol ac injan dân fechan a gai ei thynnu gan geffylau.

electricity sub station

Cyn gwladoli trydan a sefydlu’r Grid Cenedlaethol roedd yn rhaid i bob cyngor lleol gynhyrchu ei drydan ei hun ar gyfer goleuadau stryd ac at ddefnydd preifat. O gwmpas 1899 roedd ‘Gwaith Trydan y Cyngor’ yn cyflenwi trydan i’r promenâd, ac yna i ddefnyddwyr preifat. Yn ôl y son y defnyddiwr preifat cyntaf oedd Gwesty’r Metropole o gwmpas 1901.

Dyddiadau o ddiddordeb

1901 Dechreuodd gwaith trydan ar gyfer y cyflenwad cyffredinol.

1923 Caniatâd ar gyfer newid systemau trydan i A.C. (cerrynt amgen).

1923 Sefydlwyd Awdurdod Trydan ar y Cyd Gogledd Cymru a De Swydd Gaer.

1923 (Tachwedd 30ain) Sefydlu’r cyflenwad trydan newydd ac agoriad seremonïol yr orsaf ddosbarthu newydd yn Ivy Street gan Arglwydd Colwyn.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group