Mae Tŷ’r Eglwys y drws nesaf i Eglwys Sant Ioan, yn enghraifft arall o waith y pensaer enwog lleol, Sidney Colwyn Foulkes. Adeiladwyd y Neuadd yn 1936 i gymryd lle adeilad yr YMCA ar Ffordd y Traeth. Ariannwyd y gwaith o’i adeiladu drwy roddion ac mae o bellach yn Adeilad Rhestredig.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn 1941 a hynny, oherwydd y rhyfel, fel gwŷl lenyddol yn lle’r brifwyl arferol. Un o’r rhai a ymwelodd â’r neuadd yn ystod yr ŵyl honno oedd y cyn-Brif Weinidog, Lloyd George. Erbyn hyn, mae’n ganolfan gweithgareddau i blant.

Disgrifiad pensaernïol
Mae’r talcen blaen yn wreiddiol ac yn ddiddorol. Mae’n gymesur ac yn grwn, gyda tho llechi talcennog a dwy simnai addurniadol mirain â manylion ffliwtiog. Mae’r gwaith brics hardd yn haeddu sylw hefyd, wedi ei glymu’n Ffleminaidd, â llin-gwrs wedi ei lunio o friciau mowld. Mae dwy garreg sylfaen yn coffáu’r adeiladu, yr un ar y chwith yn cofnodi enwau’r ficer a wardeniaid yr eglwys, a’r un ar y dde’n dwyn enw’r un a osododd y garreg ar Ŵyl yr Holl Saint 1935.
Y tu ôl i’r talcen gain fe geir y neuadd ei hun, â’i ffenestri claeruchdwr yn uchel yn y waliau. Sylwch sut mae swmp y tŵr uchel yn y cefn wedi ei derfynu gyda rhesiad o waith brics garw ar arffurf cyfreslun.
Ar hyd y terfyn â Ffordd y Clogwyn (Cliff Road) mae wal frics isel sydd â bargodion teils ar hyd ei hochr a briciau mowld ar ei chopa.
Cafodd Tŷ’r Eglwys, Eglwys Sant Ioan, ei ychwanegu ai’r rhestr fel Adeilad Rhestredig Gradd II yn 1994.

Cydnabyddiaeth: David Birch
Mae mwy o wybodaeth am Sidney Colwyn Foulkes a’i waith ar gael yma.
