Agorwyd capel Hebron cyntaf y Presbyteriaid yn 1861 ar y lôn (llwybr heddiw) o Rosehill i Ffordd Llanelian lle’r enwyd y tai yn ei ymyl yn Hebron Terrace. Mae’r capel hwnnw erbyn hyn wedi ei droi’n dŷ.
Mae’r capel presennol a adeiladwyd yn 1904 wedi ei godi o flociau calchflaen sgwâr gydag addurniadau tywodfaen o gwmpas y drysau, y ffenestri a’r conglfeini, ac mae’r llin-gyrsiau a’r pediment hefyd yn dywodfaen. Mae’r to llechi’n codi i grib o deils crib coch addurniadol a thyrrau awyru.

Mae’r talcen flaen uchel gymesur yn cynnwys dau borth yr un fath â’i gilydd ar y naill ochr a’r llall iddi gyda drysau pren styllod fertigol ynddyn nhw sydd â cholfachau strap cymhleth.
Uwchben y ddau borth mae ffenestr gron o ddyluniad effeithiol ac anarferol a chwareli sgwâr o wydr lliw. Yng nghanol y talcen flaen mae ffenestr tridarn gwydr lliw, ac uwchben honno ffenestr gron, sydd hefyd â chwareli sgwâr o wydr lliw. O dan y ffenestr gron mae’r dyddiad AD 1903 wedi ei gerfio’n gain ar ddarn o dywodfaen, ac ar ochr chwith a dde rhesiad tywodfaen o dan hwnnw mae’r geiriau ‘TREFNYDDION’ a ‘CALFINAIDD’. O dan y cwbl, ar ddarn arall o dywodfaen, mae’r gair ‘HEBRON’. Mae dyluniad y waliau ochr a’r adain groes yng nghefn y capel yn gyson â thema’r talcen flaen.

Mae tu allan y capel hardd hwn wedi aros yn rhyfeddol o debyg i fel ag yr oedd yn wreiddiol. Mae’n werth sylwi ar ddyluniad anarferol y ffenestri crwn, sef ffenestr gron wedi ei hamgylchynu gan chwe ffenestr hanner cylch a’r cwbl o fewn un cylch mawr. Mae eu lliw llwydwyn yn cyd-fynd yn ddymunol â charreg y capel. Mae dyluniad y conglfeini neu’r cerrig cornel hefyd yn ddiddorol ac yn cynnwys gwaith byr a hir, sy’n dwyn i gof ddyluniad Eglwysi Sacsonaidd, ond yma wedi ei goethi mewn modd atyniadol a chynnil.
