Yn awdur toreithiog a hanesydd lleol, cyhoeddodd Cindy Lowe nofel yn seiliedig ar ei magwraeth ym Mae Colwyn ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ‘To Where We Once Belonged: Colwyn Bay Revisited‘, a hanes clodwiw a diffiniol llety Bae Colwyn i’r Weinyddiaeth Fwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ‘Colwyn Bay Accredited:the wartime experience‘.

Bu Cindy yn gweithio gyda’r Grŵp Treftadaeth i lunio casgliadau o atgofion pobl leol ac o fywyd yn yr ardal yn y gorffennol.
Mae atgofion pobl o’r pier ac o’u dyddiau ysgol wedi’u cyhoeddi ac ar gael yma ar wefan y grŵp fel e-lyfrau y gellir eu lawr lwytho.

“Roedd Cindy yn hanesydd cymdeithasol cymwys a phrofiadol”, meddai Arthur Creber o’r Grŵp Treftadaeth, “mae ei nofel, ei hadroddiadau hanesyddol o’r dref a’i chasgliadau o hanesion llafar yn ychwanegiad gwerthfawr i’r archif o ddeunydd ysgrifenedig ar Fae Colwyn”.
Bu Cindy yn byw yn Thames Ditton am ran helaeth o’i hoes ond ymwelai’n rheolaidd â’r dref ar gyfer ei hymchwil ac i barhau i ymwneud â gweithgareddau cymunedol lleol. Roedd hi hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Ddinesig ac yn gyfranogwr brwd ac adnabyddus yng ngwyliau’r 40au.
“Roedd ei hangerdd dros y dref, ei hanes a’i datblygiad yn heintus a daeth o hyd i ymateb parod i’w chais am straeon ar gyfer ei chyhoeddiadau” meddai Arthur Creber. “Mae hi wedi gadael etifeddiaeth werthfawr i’r dref a fydd yn difyrru ac yn hysbysu trigolion ac ymwelwyr ymhell i’r dyfodol”.
Gwelir Cindy yma yn cymryd rhan yn nigwyddiad Gŵyl y Pedwardegau ym Mae Colwyn.

Bu farw Cindy yn 2018.
