Yr hen Fanc Midland, Ffordd Abergele, Hen Golwyn

Adeiladwyd yr adeilad unllawr hardd hwn yn 1912 ar gyfer y London City and Midland Bank Ltd yn unol â chynllun gan y penseiri o Lerpwl, Woodfall ac Eccles. Fe’i adeiladwyd o dywodfaen, gyda godre garw, waliau o garreg nadd a tho llechi gyda theils crib coch y tu ôl i barapet colofnresog.

former midland bank old colwyn

Mae’r brif fynedfa ar y gornel yn un neilltuol oherwydd ei thalog, y fynedfa fwaog hanner crwn, ei phâr o ddrysau soled a’r gwaith cerfio. Mae ffenestr linter hanner crwn uwchben y drws i’w gweld yng nghefn y bwa. Mae’r un dyluniad a manylder yn perthyn i ochr Ffordd Abergele ag ydi o i ochr Ffordd Cefn. Mae hwn yn adeilad Rhestredig Gradd II sy’n arbennig oherwydd hynodrwydd ei garreg a’i waith cerfio.

Mae’r hen fanc, sydd bellach yn fferyllfa, yn esiampl wych o adeilad banc dechrau’r 20fed ganrif.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group