Pan ewch i mewn i Ben y Bryn, yn union ar y dde fe welwch hen Gapel Bethesda. Adeiladwyd y capel yn 1832 ac fe’i ehangwyd yn 1860. Fe’i drowyd yn ddiweddarach yn dŷ ac, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn stordy ar gyfer blawd o felin Llawr Pentre. Ar y chwith fe welwch Deras Twynan a adeiladwyd ychydig ar ôl 1900 – bu tŷ cyntaf y teras yn Orsaf Heddlu am flynyddoedd lawer. Roedd hefyd efail gof ym Mhen y Bryn oedd yn dyddio’n ôl i 1864.

