Tafarn y Plough, Ffordd Abergele, Hen Golwyn

Adeiladwyd y Plough yn y lle cyntaf yn 1829, ynghyd â 10 bwthyn a gefail gof. Codwyd y dafarn i wasanaethu coets yr ‘Hark Forward’ oedd yn teithio o Gaergybi i Gaer, a hynny ar gyflymder o wyth milltir yr awr.

Rhain oedd yr unig adeiladau rhydd-ddaliadol (freehold) yn yr ardal ar y pryd. Cafodd y bythynnod eu dymchwel yn 1932 pan oedd angen lledu’r ffordd.

Yn 1866, pan wrthododd plant y capeli fynd i Ysgol Sul yn Eglwys Sant Catherine, fe ddechreuwyd cynnal ysgol yn llofft stabl y Plough. Fe barhaodd yr arfer nes agor yr Ysgol Brydeinig yn 1867.

Yn ystod yr 1920au a’r 30au fe ddefnyddiwyd yr iard y tu ôl i’r Plough ar gyfer cadw bananas cwmni Ffyfes.

Adeiladwyd y dafarn dau lawr, to llechi ar odre calchfaen. Mae llawr isaf ei thu blaen yn wal frics coch a’r llawr uchaf yn wal chwip du a gwyn ffug-Duduraidd. Ar yr ochr chwith mae ffenestr fae gyda tho teils coch. Ar ochr dde’r ffenestr mae’r brif fynedfa sy’n cynnwys drws soled chwe phanel gyda linter garreg gerfiedig a ffenestr dridarn wydr lliw uwch ei phen.

Mae’r silffoedd ffenestr, linteri, pyst y ffenestri a’r grisiau i gyd yn dywodfaen. Sylwch hefyd ar y bwa cynnal o friciau uwchben y tair ffenestr ar ochr dde’r brif fynedfa – mae’r gwydr lliw deniadol yno’n ychwanegu cryn dipyn at gymeriad a golwg yr adeilad.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group