Y Tŵr, Ffordd y Clogwyn, Hen Golwyn

Adeiladwyd y tŵr ffoledd Neo-gothig hwn yn 1894 ar dir Plasdy Tan y Coed ar gyfer perchennog y Plas, Charles Woodall, fel iddo encilio iddo i ysmygu – pleser a waharddwyd iddo yn y plasdy ei hun. Byddai i’w weld yn aml hoe fach yn y tŵr.

Mae’r ffoledd yn adeilad un llawr, gyda thŵr grisiau uwch, ac yn cyfoesi â’r gerbyty. Mae gan y drws a’r ffenestri linteri carreg plaen.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y ffoledd yn wylfa i filwyr a oedd yn gwylio’r môr rhag llongau’r Almaenwyr. Ar ôl y rhyfel fe gaewyd y tŵr tan 1966 pan gafodd ei atgyweirio a’i adnewyddu, a’i ddefnyddio am sawl blwyddyn gan gangen leol o Toc H. Erbyn yr 1990au roedd mewn cyflwr peryglus a than fygythiad o gael ei ddymchwel. Yna yn 1993, fe’i prynwyd gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol Clwyd am £1 a, chyda chymorth grantiau, fe adnewyddwyd yr Adeilad Rhestredig hwn yn dŷ un llofft. Aeth ar y farchnad yn 1994 ac fe’i brynwyd gan y Landmark Trust i fod yn dŷ gwyliau. Erbyn hyn mae’n annedd breifat.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group